 |
Beth
sy’n gwneud SAFON yn wahanol i’n cystadleuwyr?
Mae Safon yn hapus i
gydweithio gyda’ch tîm mewnol, neu
i edrych ar ôl y prosiect o’r dechreuad
hyd at y diwedd.
Gan bod ein prif staff yn brofiadol ac yn gweithio
yn y maes, rydych yn gweithio ac unigolion gyda
phrofiad ar bob lefel.
Dyma esiamplau o’r hyn da ni di wneud
yn ddiweddar a sut:-
 |
Eisteddfod
Genedlaethol
www.eisteddfod.org.uk
Bu i Safon weithio
yn agos gyda chriw'r Genedlaethol yng
Nghaerdydd (2008) er mwyn hwyluso sawl
agwedd ond yn bennaf ar yr ochr iechyd
a diogelwch, - gwnaethpwyd hyn drwy weithio
law yn llaw gyda thîm profiadol
sydd a sawl blwyddyn o brofiad o dan eu
belt yn trefnu un o wyliau mwyaf Ewrop!
Bydd 2009 yn gweld Safon yn ymweld â
Bala gogyfer y brifwyl sef Eisteddfod
Meirionydd a’r Cyffiniau ble bydd
cyd-weithio unwaith eto ar yr ochr iechyd
a diogelwch yn bennaf.
|
 |
BAFTA Cymru
www.bafta-cymru.org.uk
Mae Rhys Bevan wedi
bod yn rheoli digwyddiadau'r noson hon ers
dros ddeng mlynedd a bu i Safon gymryd drosodd
yn 2007 pan fu iddo gymeryd swydd gyda grwp
Barcud Derwen a dechrau’r cwmni.
Mae llwyfannu digwyddiad mwyaf calendr cyfryngol
Cymru yn dipyn o sialens gan fod pawb yn
edrych ymlaen am noson dda!
Blwyddyn yma gwelir Safon yn edrych ar ôl
digwyddiadau BAFTA Cymru unwaith eto yn
gweithio yn agos gyda ffrindiau hen a newydd
sydd yn cefnogi gwaith yr elusen hon. Gyda
Barcud Derwen yn un o’r prif noddwyr
mae’r holl adnoddau ôl gynhyrchu
yn cael eu cyflenwi ganddynt ac yn syml
rhyngddynt mae’r adnoddau yn dod o
un lle sydd yn hwyluso cryn dipyn ar drefniadau
y noson.
|
|
|
|
 |
 |
Cynhadledd
Blwyddyn Darllen
www.blwyddyndarllengenedlaethol.org.uk
Yn dilyn ennill tendr cystadleuol
bu i Safon weithio yn agos iawn i sicrhau bod
y digwyddiad arbennig hwn yn um werth chweil fel
diweddglo i’r Flwyddyn Darllen. Unwaith
eto yn gweithio’n agos gyda’r trefnwyr
roedd Safon yn gyfrifol am holl agweddau technegol,
cynllunio a rhediad y llwyfan a hefyd y graffeg
a’r ffilmiau (drwy Eclipse Creative sef
un o is gwmnïau Barcud Derwen). Gafwyd digwyddiad
effeithio a phroffesiynol gydag un pwynt cyswllt
oedd yn symleiddio yr holl broses.
|
 |
Cyw - Sioe Nadolig
S4/C
www.plant.s4c.co.uk/cyw/
Mae Safon wedi gweithio
ar sawl prosiect i S4/C drwy 2007 & 2008 gan
gynnwys sawl lansiad, digwyddiadau cyhoeddus megis
gofynion technegol eu pafiliwn yn y Genedlaethol
a thaith haf.
Roedd yn lot o sbort bod yn rhan o daith Nadolig
Cyw, gyda rhai o hoelion wyth Safon tu cefn i’r
gofynion technegol/ rheoli llwyfan. - Safon oedd
yn gyfrifol am gyflenwi yr offer ac roedd yn bleser
cael gweld plant bach Cymru yn joio mewn sawl
canolfan hyd a lled y wlad!
|
|
|